Diweddariad COVID-19
Bydd y Deddfwriaeth Argyfwng a oedd yn galluogi Cofrestru Marowlaethau dros y ffôn yn dod i ben ar Mawrth 24 sy’n golygu y bydd rhaid cofrestru marwolaethau unwaith eto ar ol y 24ed trwy gwneud apwyntiad i ddod i’r Swyddfa Gofrestru’n bersonol.
Bydd yr Ysbyty neu’r Swyddfa Feddygol a wnaeth delio gyda’r person ymadawedig yn ebostio’r Tystysgrif Achos Marwolaeth i’r swyddfa gyda manylion y perthynas agosaf / sy’n bwriadu cofrestru’r marwolaeth, a bydd Cofrestrydd yn cysylltu gyda chi, wedi gwirio bod y manylion ar y tystysgrif yn gywir, er mwyn trefnu apwyntiad cyfleus.
Os nad ydych wedi clywed ohonom mwy na 2 diwrnod ar ôl I’r Ysbyty / Swyddfa Feddygol danfon y Tystysgrif Feddygol atom, a fyddwch mor garedig â danfon ebost i registrars@cardiff.gov.uk gan cynnwys enw’r ymadawedig, dyddiad a man eu marwolaeth, eich enw chi a’ch perthynas iddynt, gyda rhif ffôn cyswllt hefyd, os gwelwch yn dda.
I gofrestru marwolaeth, bydd angen ichi gwblhau’r camau canlynol.
Cofrestru’r farwolaeth yn yr ardal lle digwydda’r farwolaeth
Er mwyn cofrestru marwolaeth, mae’n rhaid ichi fod yn:
- berthynas i’r person a fu farw,
- rhywun a oedd yn bresennol ar adeg y farwolaeth,
- uwch weinyddwr yn y lleoliad y digwyddodd y farwolaeth ynddo, neu
- y person sy’n rhoi cyfarwyddyd i’r cyfarwyddwr angladdau.
Mae’n rhaid i chi ddod i Swyddfa Gofrestru Caerdydd i gofrestru’r farwolaeth. Os bydd hyn yn broblem i chi, ffoniwch 029 2087 1680.
Apwyntiadau
Mae’r apwyntiadau yn para oddeutu 30-45 munud, er mewn rhai achosion y gall fod angen i’r cofrestrydd gyfeirio at y crwner a allai olygu y caiff y cofrestriad ei ohirio.
Bydd angen ichi fod â’r wybodaeth ganlynol yn ystod eich apwyntiad:
- dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- enw llawn y person fu farw (enw cyn priodi os yn briodol)
- dyddiad a lleoliad genedigaeth y person fu farw
- gwaith y person fu farw ac enwau llawn a gwaith ei briod/ei phriod
- cyfeiriad arferol y person fu farw
- a oedd y person fu farw yn derbyn pensiwn gan gronfeydd cyhoeddus
- os oedd y person fu farw yn briod, dyddiad geni’r priod
- Rhif Gwasanaeth Iechyd Gwladol y person fu farw, os yw’n hysbys, neu, os yw ar gael, dylid rhoi’r cerdyn meddygol ei hun i’r cofrestrydd. Peidiwch ag oedi cofrestru os nad yw’r cerdyn meddygol ar gael.
Trefnu’r angladd
Cewch ragor o wybodaeth am sut i drefnu angladd yng Nghaerdydd ar wefan Gwasanaethau Profedigaeth Caerdydd.